T. H. Parry-Williams a Mihangel Morgan ar restr Finnegan 2014

T. H. Parry-Williams a Mihangel Morgan ar restr Finnegan 2014

22 Ionawr 2014

SEUA logo color 400

Fe fydd Casgliad o Ysgrifau gan T. H. Parry-Williams a Melog, nofel Mihangel Morgan yn ymddangos ar restr Ewropeaidd o drysorau llenyddol coll eleni, yn dilyn eu dethol gan y nofelydd a’r ysgolhaig Angharad Price.

Nod Finnegan’s List, a gyhoeddir gan Y Gymdeithas Awduron Ewropeaidd, yw cyflwyno gweithiau llenyddol nad ydynt wedi eu cyfieithu’n eang neu sydd wedi eu hanghofio’n llwyr i gynulleidfa Ewropeaidd, a hynny drwy wahodd deg awdur adnabyddus i ddewis tair cyfrol.

Enwebwyd Angharad Price gan Gyfnewidfa Lên Cymru, a’i dethol gan Y Gymdeithas Awduron Ewropeaidd ynghyd a Janne Teller, Gonçalo M. Tavares, Vladimir Arsenijević, Igiaba Scego, László F. Földényi, Olga Tokarczuk, Enzo Traverso, Monique Schwitter, Christos Chrissopoulos i gyfrannu i restr 2014.

Fel rhan o ddathliadau Finnegan’s List 2014 bydd nifer o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal mewn dinasoedd ar draws Ewrop, yn cynnwys Amsterdam a Krakow, gan roi cyfle i’r awduron drafod eu detholiad yn ogystal â phwysigrwydd cyfieithu llenyddiaeth.

Gellir darllen mwy am Finnegan’s List 2014 yma

Gwellir lawrlwytho rhestr Finnegan’s List 2014 yn llawn yma