29 Hydref 2015
10 Tachwedd, 7.30pm
Arad Goch, Aberystwyth
Bydd Eurig Salisbury yn trafod ac yn darllen gyda’r bardd Slofeneg Robert Simonišek sydd yn treulio mis yn Aberystwyth ar breswyliad rhyngwladol.
Wrth iddynt gydweithio, fe greodd y bardd Ffrangeg o Algeria, Samira Negrouche a’r bardd Zoe Skoulding (Bangor) berfformiad sain a barddoniaeth amlieithog gan ddefnyddio Saesneg a Ffrangeg, ynghyd ag Arabeg a Thamasicht, sef yr ieithoedd eraill mae Samira Negrouche yn eu defnyddio yn ei gwaith. Cyflwynwyd y perfformiad yn wreiddiol yng Ngŵyl Barddoniaeth Ledbury ym mis Gorffennaf 2014 ac fe berfformir eto yng Ngŵyl Globe Road, Llundain ar Dachwedd 15fed.
Cynhelir y digwyddiad hwn fel “ôl nodyn” i Ŵyl Farddoniaeth Ryngwladol Gogledd Cymru a phrosiect LITERARY EUROPE LIVE / EWROP LENYDDOL FYW a gefnogir gan y rhaglen Ewrop Greadigol a Chyngor Celfyddydau Cymru.
Trefnir mewn cydweithrediad â Thŷ Cyhoeddi Goga (Slofenia) a gyda chefnogaeth Gweinyddiaeth Diwylliant Slofenia, Asiantiaeth Lyfrau Slofenia a Gŵyl Farddoniaeth Globe Road.