Angharad Price a Francesca Reece i gyflwyno ffuglen gyfoes o Gymru mewn gwyliau llenyddol yn India

14 Ionawr 2026

Rydym yn falch iawn o barhau â'r berthynas â phartneriaid ac yn ddiolchgar i'n cyllidwyr am y gefnogaeth i fynd ag awduron benywaidd arobryn o Gymru…

INDIA 2026 KLF KBF

Angharad Price a Francesca Reece i gyflwyno ffuglen gyfoes o Gymru mewn gwyliau llenyddol yn India

Rydym yn falch iawn o barhau â'r berthynas â phartneriaid ac yn ddiolchgar i'n cyllidwyr am y gefnogaeth i fynd ag awduron benywaidd arobryn o Gymru i India y mis hwn. Bydd Alexandra Büchler yn mynd gyda'r nofelwyr Angharad Price a Francesca Reece i Kerala a Kolkata, lle byddant yn siarad yn y 9fed Gŵyl Lenyddiaeth Kerala a'r 49ain Ffair Lyfrau Kolkata. Mae'r ymweliad yn cyd-fynd â chyhoeddi blodeugerdd newydd o straeon byrion gan awduron benywaidd cyfoes o Gymru, gyda'r nod o gyflwyno'r lleisiau pwysig hyn i'r gynulleidfa lenyddol Saesneg yn India a chyhoeddwyr rhyngwladol.

Mae Angharad Price yn un o awduron cyfoes mwyaf clodwiw Cymru. Enillodd ei nofel O! Tyn Y Gorchudd Wobr Llyfr y Flwyddyn ac mae wedi'i chyfieithu i sawl iaith gan gynnwys Bengaleg. Yn adnabyddus am ei rhyddiaith delynegol a'i harchwiliad dwfn o gof, lle a hunaniaeth, mae gwaith Angharad wedi'i wreiddio'n ddwfn yn nhirweddau a chymunedau gogledd-orllewin Cymru. Enwebwyd ei nofel ddiweddar Nelan a Bo - myfyrdod ar golled, perthyn, a phwysau hanes - ar gyfer gwobr Llyfr y Flwyddyn Llenyddiaeth Cymru yn 2025. Mae ei gallu i gyflwyno gweadau penodol bywyd gwledig Cymru wrth fynd i'r afael â themâu cyffredinol teulu, marwolaeth ac etifeddiaeth ddiwylliannol wedi ennill cydnabyddiaeth ryngwladol iddi. Yn gyfieithydd profiadol, mae'n Athro Cymraeg ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Bangor, Gogledd Cymru.


Mae Francesca Reece yn awdur o ogledd-ddwyrain Cymru, sydd â gwreiddiau yn India ar ochr ei mam. Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf, Voyeur, gan Tinder Press yn 2021. Cyrhaeddodd ei hail nofel, Glass Houses (2025), restr fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn, a bydd ei thrydedd, Sleaze—comedi am gyfieithydd alltud sy'n byw ym Môr y Canoldir, yn cael ei chyhoeddi yn 2027 gan Serpent's Tail yn y DU a Doubleday yn yr Unol Daleithiau. Mae ei dwy nofel gyntaf wedi'u cyhoeddi mewn cyfieithiad Almaeneg gan Fischer Verlag, ac mae'r ddwy wedi'u dewis ar gyfer addasiad posibl ar y sgrin. Enillodd Wobr Llenyddiaeth Desperate 2019, ac mae ei gwaith wedi ymddangos yn The London Magazine, Banshee, Literary Review, Elle UK, ac ar BBC Short Works. Mae hi'n byw yn Llundain.

Bydd y ddau awdur yn mynychu Gŵyl Lenyddiaeth Kerala, gan siarad ar banel ar Ionawr 23ain o'r enw "Power, Revolution and the European Imagination" ochr yn ochr â'r awdur Slofacia Lukas Cabala, gydag Alexandra Büchler yn cymedroli. Mae'r panel yn addo archwilio sut mae awduron Ewropeaidd cyfoes yn ymdrin â chwestiynau newid gwleidyddol, hunaniaeth ddiwylliannol, a rôl llenyddiaeth mewn cyfnod o aflonyddwch.

Yna byddant yn teithio i Kolkata ar gyfer 49ain Ffair Lyfrau Kolkata, lle ar Ionawr 27ain byddant yn siarad â Sunandan Roy Chowdhury o gyhoeddwyr Sampark am y flodeugerdd newydd ac ysgrifennu cyfoes Cymraeg.

Mae A New Welsh Tapestry yn flodeugerdd a gyhoeddir gan Sampark ac a olygwyd gan Nici Beech sydd wedi cael ei chefnogi gan Gymru Greadigol fel rhan o'n rhaglen i ddatblygu cyfieithu yng Nghymru ac mae'n cynnwys straeon byrion gan chwe awdur benywaidd o Gymru, gan gynnig cyfle i ddarllenwyr a chyhoedwyr ryngwladol ddarganfod amlochredd ac amrywiaeth llenyddiaeth gyfoes o Gymru. Mae gweddill yr awduron yn cynnwys Fflur Dafydd, Caryl Lewis, Sian Northey a Manon Steffan Ros.

Fel yr ysgrifenna Casi Dylan yn y rhagymadrodd, "Mae darllenwyr sy'n darganfod y lleisiau hyn am y tro cyntaf yn cwrdd â nhw ar adeg gyffrous ac mae'n dyst i sgil a sensitifrwydd pob un o'r chwe awdur sy'n ymddangos yma bod eu ffuglen yn croesi ffiniau o bob math, tra'n parhau i fod wedi'i wreiddio'n gadarn yn eu darn penodol o ddaear.."

Mae'r ymweliad hwn yn cael ei gefnogi gan Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru ac mae'n adeiladu ar gyfnewidiadau diwylliannol parhaus rhwng Cymru ac India, gan gryfhau cysylltiadau llenyddol a chyflwyno cynulleidfaoedd newydd i gyfoeth ysgrifennu o Gymru.